Pam mabwysiadu gyda SEWAS?

Ni yw Gwasanaeth Mabwysiadu De-ddwyrain Cymru, a elwir yn SEWAS. Ni yw’r gwasanaeth mabwysiadu lleol ar gyfer pobl sy’n byw ym Mlaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen ond rydym yn croesawu ymholiadau o’r ardaloedd cyfagos hefyd.

Rydym yn darparu gwybodaeth am fabwysiadu, yn helpu pobl i gyflawni eu gobeithion o ddod yn rhieni, yn cefnogi teuluoedd sy’n mabwysiadu yn ein hardal ac yn darparu cyngor i unrhyw un sydd â chwestiynau am fabwysiadu.

Darllen mwy

Straeon mabwysiadwyr

“Nid wyf yn gwybod mewn gwirionedd a fyddaf byth yn gallu diolch i’m plant am yr hyn y maent wedi’i roi i mi. Nid rhyw stori dylwyth teg eiddil yw hon am ba mor berffaith yw ein bywydau neu ein plant. Mae pethau wedi mynd yn anodd a gallant fod yn heriol iawn o hyd.”

Fe wnaethon ni osod

75

o blant gyda rhieni mabwysiadol yn 2019.

Alla i fabwysiadu os….?

Mae yna lawer o fythau am fabwysiadu. Gofynnir yn rheolaidd inni ‘alla i fabwysiadu os…?’

Nid ydym yn briod

P’un a ydych chi’n briod, yn sengl, mewn perthynas neu mewn partneriaeth sifil, rydym yn croesawu’ch cais.

Rwy’n rhy ifanc

Rhaid i chi fod dros 21 oed i fabwysiadu plentyn. Rydym yn trin ceisiadau ar gyfer pob oedran yn gyfartal.

Rydym mewn perthynas o’r un rhyw

Rydym yn derbyn mabwysiadwyr waeth beth fo’u hunaniaeth rywiol neu rywioldeb. Mae gennym lawer o fabwysiadwyr LGBTQ+.

Rwy’n sengl

Cewch, wrth gwrs! Byddwch yn derbyn yr un hyfforddiant ag y mae pob mabwysiadwr arall yn ei dderbyn, gan eich paratoi i fod y rhiant gorau y gallwch fod ar gyfer plentyn.

Rwy’n rhy hen

Nid oes terfyn oedran uchaf i fabwysiadu. Byddwn yn ystyried eich gallu i ofalu am blentyn nes eu bod yn cyrraedd byd oedolion a’ch iechyd a’ch ffordd o fyw chi eich hun.

Mae gen i anifeiliaid anwes

Mae anifeiliaid anwes yn rhan o’r teulu hefyd. Rydym yn croesawu pobl ag anifeiliaid anwes sy’n gyfeillgar i deuluoedd ac yn ystyried eich amgylchiadau teuluol cyfredol wrth eich paru â’ch plentyn/plant yn y dyfodol.